Nida Nasser - ar goll ers Rhagfyr 28
Mae diflaniad dynes ifanc o Gasnewydd dridiau wedi’r Nadolig, yn parhau’r ddirgelwch i Heddlu Gwent.

Fe ddiflanodd Nida Naseer, 19, o’i chartre’ ar Ragfyr 28 – heb esgidiau am ei thraed, heb gôt, heb arian, heb ffôn a heb ei meddyginiaeth chwaith.

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod nhw wedi bod trwy “llwyth” o ffilmiau teledu cylch cyfyng, yn ogystal â dilyn 545 o ddarnau o dystiolaeth sydd wedi dod i law, ynghyd â chymryd 114 o ddatganiadau.

At hynny, mae pedwar o arbenigwyr ieithoedd Wrdw a Pwnjabi o luoedd Greater Manchester, Thames Valley a’r Met yn Llundain, wedi bod yn cynorthwyo gyda’r ymchwiliad.

Mae teulu Nida wedi gwneud sawl apêl arni i ddychwelyd gartref, yn cynnwys un ar noswyl ei phen-blwydd yn 19 oed ar Ionawr 25.