Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira yng Nghymru ar gyfer y 24 awr nesaf.
Mae disgwyl i eira ddisgyn yng Ngwynedd, Powys, Wrecsam, Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Dinbych, Ceredigion a Chonwy o hanner nos heno a thrwy’r bore ‘fory.
Yn ôl y Swyddfa, bydd glaw yn troi yn eira yn arbennig ar dir uchel gan achosi trafferthion posib.
Gall yr eira syrthio ar dir isel hefyd ac mae’r rhagolygon tywydd yn annog y cyhoedd i fod yn ofalus wrth deithio, yn enwedig bore yfory wrth fynd i’r gwaith.
Rhybudd melyn yw’r lefel isaf ymhlith lefelau’r Swyddfa Dywydd wrth iddyn nhw asesu effaith y tywydd yn gyffredinol.