Mi fydd rhagor o gynghorau sir yng Nghymru yn cwrdd yn ddiweddarach i drafod sut i wneud arbedion yn eu cyllidebau.
Wrth i gynghorau wynebu toriadau mawr, maen nhw’n gorfod ystyried cael gwared a nifer o wasanaethau yn y sir a chodi ffioedd ychwanegol am eraill, gan gynnwys treth cyngor.
Mi fydd cynghorau Sir Ynys Môn, Caerdydd a Sir Fynwy yn ystyried codi’r dreth o rhwng 4% a 4.5%.
Ynys Môn
Mae cynghorwyr am fod yn trafod cynnydd o 4.5% yn y dreth gyngor i drigolion Ynys Môn – swm mae Pwyllgor Gwaith y Cyngor eisoes wedi ei gefnogi – er mwyn arbed £20 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
Awgrym arall yw torri grant cylchoedd meithrin yn y sir a fyddai’n golygu fod plant yn mynd i’r ysgol gynradd yn dair oed. Byddai’n effeithio 33 cylch meithrin yn Ynys Môn ac mae’r syniad wedi ennyn gwrthwynebiad cryf yn lleol.
Mae cynghorwyr hefyd am fod yn ystyried cwtogi staff canolfannau hamdden a chynyddu costau parcio ar yr ynys.
Caerdydd
Bydd cynghorwyr yng Nghaerdydd yn trafod cynnydd o 3.97% mewn treth gyngor a’r awgrym fod rhai o weithwyr y cyngor yn gweithio un awr yn llai mewn wythnos.
Mae toriadau eraill yn cynnwys lleihau nifer y canolfannau ailgylchu, cau canolfannau chwarae i blant a thorri nôl ar y gwasanaeth glanhau strydoedd.
Mae’r cyngor yn ceisio arbed £50 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Mynwy
Cynnydd o 3.95% fydd Cyngor Sir Fynwy yn ei drafod, er mwyn ymateb i doriadau o £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Dywed y cyngor na fydden nhw’n cau gwasanaethau cymunedol fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, amgueddfeydd ac ysgolion.
Ond fe all prisiau cinio ysgol godi ac mae posib y bydd golau stryd yn cael eu pylu.
Cymeradwyo
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Cyngor Conwy, Ceredigion ac Abertawe wedi cymeradwy cynnydd o 5% yn eu treth cyngor a Chyngor Caerffili, Wrecsam, Merthyr Tudful wedi cymeradwyo cynnydd o rhwng 3% a 4.5% yn eu trethi.