Ysbyty Plant Bryste
Roedd babi, a gafodd ei eni’n gynnar, wedi dirywio o fewn awr ar ôl i nyrs dynnu offer anadlu heb yn wybod i’w rieni a meddygon, clywodd cwest heddiw.

Cafodd Rohan Rhodes, o Arberth yn Sir Benfro ei eni 15 wythnos yn gynnar yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ar 27 Awst, 2012.

Cafodd offer anadlu ei ddefnyddio pan gafodd ei eni a chafodd ei roi yn ward yr ysbyty ar gyfer babis newydd lle’r oedd meddygon yn credu ei fod yn “gwneud yn dda.”

Cafodd Rohan wedyn ei symud i Ysbyty St Michael’s ym Mryste er mwyn cael ei asesu am lawdriniaeth yn agos at ei galon.

Mae’r ysbyty yn yr un ymddiriedolaeth ag Ysbyty Plant Bryste, sy’n rhan o ymchwiliad i wasanaethau’r galon i blant sydd wedi cael ei alw gan Syr Bruce Keogh, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Iechyd Lloegr.

Clywodd y cwest heddiw mai’r penderfyniad oedd parhau i ddefnyddio’r offer anadlu ar Rohan.  Ond fe benderfynodd y nyrs Amanda Dallorzo i dynnu’r offer oddi wrth Rohan heb ymgynghori ag unrhyw un arall, a defnyddio mwgwd anadlu yn lle.

Roedd ei gyflwr wedi dirywio’n gyflym ar ôl hynny a bu farw, yn 36 diwrnod oed, yn yr ysbyty.

Dywedodd Dr Vel Ramalingam wrth y cwest heddiw: “Roeddwn i wedi cael arddeall bod Rohan am gael ei gadw ar yr offer anadlu. Roeddwn i’n disgwyl i rywun ymgynghori gyda fi cyn gwneud y math yna o benderfyniad (i dynnu’r offer anadlu).

“Roeddwn i’n credu mai’r cynllun oedd parhau gyda’r offer anadlu.”

Ychwanegodd ei fod wedi ei “synnu” o weld bod yr offer anadlu wedi cael ei dynnu.

Clywodd y cwest bod nyrsys wedi methu cynnal profion gwaed ar Rohan i weld sut yr oedd wedi ymateb i’r driniaeth newydd, er gwaethaf cais gan Dr Ramalingam.

Am 6yb ar 30 Medi cafodd Timothy Rogers, llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Plant Bryste ei alw i gynnal llawdriniaeth frys ar Rohan. Ond fe ddangosodd profion nad oedd yn ddigon sefydlog i’r llawdriniaeth gael ei gynnal.

Am 4yh y diwrnod hwnnw roedd Timothy Rogers wedi cael sgwrs gyda rhieni Rohan, Alex a Bronwyn Rhodes i fynegi ei bryder am gyflwr y babi.

Bu farw Rohan am 6yh y diwrnod hwnnw.

Mae’r cwest yn parhau.