Yn groes i gyngor arbenigwyr, mae awdurdodau lleol wedi cymeradwyo 341 o geisiadau cynllunio i ddatblygu mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef o effeithiau llifogydd ers 2004.

Dyma mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan Blaid Cymru yn eu hawgrymu.

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Llŷr Gruffydd, dyma’r “peth diwethaf sydd ei angen” wrth i batrymau tywydd fynd yn fwy eithafol.

Ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu fod adeiladu ar safleoedd sydd mewn perygl o orlifo yn rhoi’r datblygiad dan sylw, ynghyd a thai mewn mannau eraill, mewn perygl “annerbyniol”.

Cafodd Cymru ei tharo gan stormydd a llifogydd dros y misoedd diwethaf, gan orfodi cannoedd o bobol i symud allan o’u cartrefi dros dro a gadael miloedd heb gyflenwad trydan.

‘Anwybyddu arbenigwyr’

Dywedodd Llŷr Gruffydd AC:  “Mae’n peri pryder enbyd fod cynghorau yn dal i anwybyddu cyngor arbenigwyr ac o bosib yn creu problemau mawr i bobol yn y dyfodol.

“Wrth i ni weld patrymau tywydd cynyddol eithafol, y peth diwethaf rydym am ei wneud yw codi mwy o dai fydd dan fygythiad y tywydd eithafol.”

Ac fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Fel rhan o’n rôl ni fel ymgynghorwyr statudol yn y broses gynllunio, rydym yn rhoi cyngor arbenigol i Awdurdodau Cynllunio Lleol am berygl llifogydd ar safleoedd datblygu arfaethedig i’w helpu i benderfynu.

“Rydym yn gwrthwynebu datblygiadau sydd nid yn unig yn rhoi’r datblygiad, ond eiddo mewn mannau eraill, mewn perygl annerbyniol o lifogydd.

“Er hynny, nid ni sy’n penderfynu a gall Awdurdod Cynllunio Lleol ddewis i gymeradwyo datblygiad yn erbyn ein cyngor.”

Mae’r ffigurau gafodd eu darparu i Blaid Cymru yn ymwneud a chynlluniau gafodd eu cymeradwyo mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, ac nid datblygiadau a gafodd eu hadeiladu.

Mae golwg 360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.