Ellen ap Gwynn
Mae 11 aelod o staff wedi eu gwahardd dros dro o gartref henoed yng Ngheredigion.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae’r staff o Gartref Preswyl Awel Deg yn Llandysul wedi eu gwahardd er mwyn  i ymchwiliadau gael eu cynnal. Nid oedd y cyngor yn barod i rannu mwy o wybodaeth am y mater ar hyn o bryd.

Daw’r gwaharddiadau wythnos ar ôl i’r cyngor gyhoeddi eu bod yn cau’r cartref dros dro “o ganlyniad i anawsterau staffio”.

Mae trefniadau ar waith dros dro i ddarparu cymorth a gofal wrth i’r Cyngor drefnu bod y preswylwyr yn symud i gartrefi eraill. Bydd hynny’n digwydd yn yr wythnos a hanner nesaf.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad eithriadol o anodd, ond yn un hanfodol er mwyn sicrhau bod ein preswylwyr yn ddiogel ac yn iach.

“Byddwn yn mynd ati ar unwaith i gynllunio’r ddarpariaeth gofal yn yr ardal gyda’r nod o ddal ati i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i bobl hŷn Ceredigion.”

Mae disgwyl i’r cartref ail agor ymhen chwe mis, cyn ail-agor fel canolfan dementia.