Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn damwain ddifrifol yn Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Cafodd dau o bobl leol, dynes yn ei 40au a dyn yn ei 20au, eu hanafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad ar y B4419 rhwng Llangaffo a Gaerwen toc wedi 8.40yh ar nos Sadwrn, 22 Chwefror.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta gwyn a Fiesta lliw du, neu a oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.