Mae Prif Weinidog Prydain wedi rhoi sicrwydd na fydd y BBC yn cael gwario llai a llai o arian ar S4C yn y dyfodol.
Ac mewn cyfweliad gyda’r cylchgrawn Golwg, mae wedi gwarantu y bydd y Sianel Gymraeg yn cael ei rheoli’n gwbl annibynnol ar y Gorfforaeth.
Roedd David Cameron yn Stadiwm Swalec Caerdydd ddoe, ar gyfer Fforwm Wanwyn y Blaid Geidwadol.
Yn y bore, roedd mwy na 1,000 o bobol yn gorymdeithio trwy’r brifddinas yn erbyn y toriadau mewn gwario cyhoeddus ac yn eu plith roedd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio’n erbyn penderfyniad Llywodraeth Prydain i roi’r cyfrifoldeb rhan fwya’ o arian y sianel yn nwylo’r BBC.
Mae’r ymgyrchwyr yn ofni y bydd y Sianel Gymraeg yn isel ar restr o flaenoriaethau’r BBC yn Llundain, ac yn derbyn llai o arian yn y dyfodol.
Ond fe ddywedodd David Cameron yn glir na fydd y BBC yn cael torri arian S4C. “Fe wnawn ni’n siŵr nad yw hynny’n digwydd,” meddai.
‘Diogelu’r sianel’
“Llywodraeth Geidwadol a greodd S4C ac r’yn ni’n credu yn S4C. Mae’r Adran Ddiwylliant, Chwaraeoon a Cyfryngau – sy’n gyfrifol am S4C – wedi gorfod torri ei chostau gweinyddol ei hun gan rhywbeth fel 50% – felly r’yn ni’n credu ein bod ni wedi diogelu S4C.
“R’yn ni’n credu y bydd y trefniant yma gyda’r BBC yn diogelu ei ddyfodol – rhywbeth sy’n allweddol bwysig.
“Ac oes, wrth gwrs, mae’n rhaid I ni sicrhau fod rheolaeth olygyddol a’r ffordd mae [S4C] yn comisiynu rhaglenni yn gwbwl annibynnol dan y trefniadau hyn.”
- Y cyfweliad yn llawn yng nghylchgrawn Golwg dydd Iau