Betsan Powys
Mae 140,000 yn gwrando ar Radio Cymru’n wythnosol sy’n debyg iawn i’r chwarter diwethaf, yn ôl ffigurau gwrando swyddogol RAJAR a gafodd eu cyhoeddi heddiw.
Mae’r gyfran sy’n gwrando ar Radio Cymru bellach wedi cyrraedd ei lefel uchaf yn y tair blynedd diwethaf, meddai’r BBC tra bod mwy o bobl yn gwrando ar BBC Radio Wales ar gyfartaledd yn ystod 2013 nag yn ystod unrhyw flwyddyn dros y degawd blaenorol.
Mae cyrhaeddiad wythnosol Radio Wales, sef 466,000, ychydig yn is na’r chwarter diwethaf ond yn uwch na blwyddyn yn ôl.
‘Sylfaen gadarn’
Mae Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, wedi croesawu’r ffigurau, gan ddweud eu bod yn rhoi sylfaen gadarn i’r orsaf cyn y newidiadau i’r amserlen fis nesaf:
“Mae ’na lawer o newyddion da yn y ffigurau gwrando diweddaraf ac mae’n arbennig o dda bod rhagor o siaradwyr Cymraeg rhugl bellach yn gwrando ar Radio Cymru nag unrhyw orsaf radio arall – ddim yn ffôl mewn marchnad sydd mor gystadleuol.
“Wrth i ni edrych at y dyfodol a’r amserlen newydd y byddwn yn ei lansio ym mis Mawrth, mae’n amser cyffrous i’n gwrandawyr ac i dimau’r rhaglenni.”