Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud y byddan nhw’n cael gwared ar dreth stamp ar eiddo o dan £250,000 pe bae nhw’n ffurfio Llywodraeth yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae pobl sy’n prynu tŷ yn talu treth stamp sy’n werth 1% o werth eiddo rhwng £125,000 a £250,000, sy’n gallu ychwanegu hyd at £2,500 tuag at y gost o brynu’r eiddo.
Mae’r dreth stamp yn y broses o gael ei ddatganoli i Gymru fel rhan o Fesur Cymru. Fe fyddai’r gost o sgrapio treth stamp oddeutu £20 miliwn.
Yn ôl y Ceidwadwyr cafodd 13,000 o gartrefi rhwng £125,000 a £250,000 eu gwerthu yng Nghymru’r llynedd, gyda’r gost ar gyfer treth stamp yn £1,600 ar gyfartaledd.
Ni does rhaid talu treth stamp ar eiddo o dan £125,000 ar hyn o bryd. Mae pris eiddo yng Nghymru ar gyfartaledd yn £166,722 gan olygu y byddai cost treth stamp yn £1,667.
Yn ôl y Ceidwadwyr fe fyddai codi trothwy treth stamp i eiddo dros £250,000 yn rhoi’r cyfle i fwy o deuluoedd i brynu eu cartref eu hunain.
Y Ceidwadwyr yw’r blaid gyntaf i gyhoeddi cynlluniau polisi treth stamp yng Nghymru a dywed y blaid y bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn eu maniffesto ar gyfer etholiad 2016.