Mae ymgyrchwyr iaith yn dechrau ar gyfnod newydd o brotestio trwy ddadorchuddio baner yn Aberystwyth amser cinio er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy dros y Gymraeg.

Am hanner dydd bydd Cymdeithas yr Iaith yn gosod baner ar bont Trefechan yn yn y dref – ble cynhaliwyd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith yn 1963.

Bydd ymgyrchwyr hefyd yn dadorchuddio baneri ar bontydd adnabyddus ar hyd a lled Cymru dros y penwythnos, gan gynnwys Pont Menai a Phont Hafren, mewn ‘cyfres o ymgyrchoedd symbolaidd’.

Dywedodd y mudiad fod yr ‘anufudd-dod dinesig’ yn adwaith i’r “argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg a amlygwyd gan ganlyniadau’r Cyfrifiad dros flwyddyn yn ôl”.

Ym mis Awst y llynedd, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at Carwyn Jones gan ofyn iddo wneud datganiad o fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi erbyn 1af Chwefror 2014, megis cyflwyno addysg Gymraeg i bawb a threfn gynllunio newydd er budd yr iaith.

Nid yw’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynd i’r afael â gwir broblemau’r iaith, yn ôl y Gymdeithas, ac nid yw ei benderfyniadau i ddatblygu ap Cymraeg na’i ymgyrch ‘pump y dydd’ i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bump o weithiau bob diwrnod, yn hanner digon medden nhw.

Llywodraeth yn “llusgo traed”

Wrth ddadorchuddio baner ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei bod hi’n hen bryd i’r Llywodraeth newid ei pholisïau.

“Dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’n hen bryd i’r Llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg,” meddai Robin Farrar.

“Heddiw, rydyn ni’n dechrau ar gyfnod o anufudd-dod, er mwyn, gan alw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall bethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd.

“Ni fydd gwefan ac ap newydd yn ymateb digonol i’r argyfwng – mae angen cymryd camau uchelgeisiol mewn meysydd addysg, cynllunio ac ariannu. Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu.

“Mae Carwyn Jones ei hun wedi cydnabod ei ofidion am gyflwr yr iaith. Ond, yn hytrach na dangos arweiniad cadarnhaol, a mynd i’r afael â’r her sy’n wynebu’r Gymraeg, mae’r Llywodraeth Lafur yn parhau i lusgo eu traed.

“Er gwaethaf blwyddyn gron o lythyru, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda’r Llywodraeth, mae’n ymddangos i ni erbyn hyn, mai anufudd-dod dinesig a gweithredu cadarnhaol yw’r unig fodd o sicrhau bod Carwyn Jones a’r Llywodraeth yn gweithredu.”

Un o’r rheiny sydd wedi datgan ei gefnogaeth i’r cyfnod newydd hwn o ymgyrchu yw’r hanesydd ac ymgyrchydd Dr. Meredydd Evans, a ddywedodd mewn datganiad: “Mae’n hwyrach yn y dydd arnom nag erioed. Yn Hen ac yn Ifanc, trwy air a gweithred, cefnogwn y Gymdeithas yn y dyddiau argyfyngus hyn.”

Mae ymgyrchwyr wedi trefnu digwyddiadau dros y penwythnos ar Bont Menai, Pont Cysylltau yn Wrecsam, pontydd ym Machynlleth, Aberteifi, a Llandeilo, a Phont Hafren.