Llys y Goron Abertawe
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o drywanu ei gariad 40 o weithiau wedi dweud wrth y llys – mewn tystiolaeth sydd heb ei glywed o’r blaen –  ei bod hi wedi dechrau ffrae ar ôl ceisio ei gusanu.

Mae Steven Daniel Williams, 30, o Ddinbych y Pysgod wedi gwadu celu’r dystiolaeth, a allai fod yn allweddol, yn ystod yr achos llofruddiaeth heddiw.

Dywedodd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe nad oedd yn credu bod y dystiolaeth “yn berthnasol.”

Cafodd  Joanna Elizabeth Hall, 35, o Ddinbych y Pysgod ei thrywanu 40 o weithiau mewn ymosodiad yn ei fflat ym mis Mawrth y llynedd.

Er iddi gael ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe mewn ambiwlans awyr a chael llawdriniaeth frys, bu farw o ganlyniad i’r ymosodiad 19 diwrnod yn ddiweddarach.

Mae Williams yn gwadu ei llofruddio.

Roedd Joanna Hall wedi dweud wrth ei chwaer a pharafeddyg mai Williams oedd wedi ymosod arni.

Mae Williams yn awgrymu bod dyn arfog wedi torri mewn i’r fflat ac wedi ymosod ar Joanna Hall tra’r oedd o allan yn prynu sigaréts a whisgi.

‘Ffrae’

Bu Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad yn croesholi Williams am yr ail ddiwrnod heddiw.  Mae negeseuon ar ffonau’r ddau yn awgrymu bod y cwpl wedi cael ffrae ar 15 Mawrth a bod Williams wedi mynd i’w fflat yn ystod oriau man y bore.

Mae Williams yn honni eu bod nhw wedi bod yn cael sgwrs a bod ffrae wedi dechrau ar ol i Joanna gisio ei gusanu. “Nes i ei gwthio hi i ffwrdd a dweud ‘Na’ ac roedd hi’n ymbil arna’i ‘pam ddim?’.”

Dyma’r tro cyntaf i Williams son am hyn, meddai Elwen Evans QC.

Dywedodd Williams nad oedd yn credu bod y ffaith eu bod nhw wedi “cael ffrae fach” yn berthnasol.

“Felly rydych chi yn bwrpasol heb ddweud wrth unrhyw un am y ffrae,” meddai Elwen Evans.

“Na, dyw e jyst heb ddod allan,” meddai Williams.

“Unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl am sydd heb ddod allan?” gofynnodd Elwen Evans.

“Na,” meddai Williams.