Y Canghellor George Osborne
Yn ôl y ffigyrau swyddogol a gyhoeddwyd ddoe fe dyfodd economi Prydain 1.9% y llynedd, y twf mwyaf ers 2007.

Dywedodd prif ymgynghorydd economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol Joe Grice ei bod hi “fel petai’r economi yn gwella yn fwy cyson”.

Daw ffigyrau ddoe’n dilyn y newyddion yr wythnos diwethaf bod gostyngiad o 12,000 wedi bod yn nifer y di-waith yng Nghymru.

Yn ôl y Prif Weinidog David Cameron mae’r twf yn yr economi yn golygu mwy o waith a gwell diogelwch a chyfleoedd i bobl.

Ond ar y llaw arall mae rhai wedi dadlau fod yna ‘argyfwng costau byw’ yn parhau wrth i brisiau nwyddau barhau i godi’n gynt na chyflogau.

Felly a yw’r ystadegau yma’n golygu fod safonau byw pobl y wlad yn dechrau gwella o’r diwedd, wrth i’r economi droi cornel?

Neu a ydych chi’n teimlo fod pobl yn parhau i gael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd yn ariannol?