Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi galw am well systemau cynllunio a gwerthuso a llai o ffocws byrdymor, wrth i awdurdodau lleol fynd i’r afael a’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu.
Yn ôl adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae cynghorau yng Nghymru wedi llwyddo i ateb yr heriau ariannol hyd yma – er gwaethaf y pwysau sylweddol – ond mae’r craciau yn dechrau ymddangos.
Yn ei adroddiad, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru y bydd awdurdodau lleol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar roi trefniadau cadarn a phriodol ar waith er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd.
Ond y broblem yw nad oes gan lawer ohonynt y fath drefniadau ar hyn o bryd.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ar gyfer gwella, gan gynnwys :
– Datblygu strategaethau a chynlluniau clir, gan ddangos yr hyn y maen nhw am ei gyflawni a sut maen nhw’n bwriadu gwneud hynny.
– Cysylltu cynlluniau a strategaethau yn agos â chynlluniau ariannol tymor hwy.
– Ystyried mwy o gyfleoedd i gydweithio, a gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, er mwyn lleihau costau a gwella canlyniadau i ddinasyddion.
– Atgyfnerthu trefniadau ar gyfer gwerthuso’r effaith y mae penderfyniadau ariannol – neu safonau gwasanaeth – yn ei chael ar ddinasyddion.
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r graddau y mae cynghorau yng Nghymru yn ymateb i’r pwysau ariannol maen nhw’n eu hwynebu.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud nad yw llawer o gynghorau yn ymgysylltu’n effeithiol ag eraill ac nad ydyn nhw yn asesu effaith bosibl arbedion arfaethedig neu newidiadau posibl i wasanaethau mewn ffordd gadarn.
Ond ychwanega’r adroddiad bod rhai enghreifftiau o arfer da ymysg cynghorau.
‘Angen cynlluniau cadarn’
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: “Mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael setliad mwy hael na Lloegr yn ddiweddar, ond mae bellach yn wynebu gostyngiadau sylweddol yn ei chyllid ynghyd â phwysau sy’n deillio o boblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio a galw cynyddol mewn meysydd megis gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwastraff.
“Golyga hyn oll y bydd awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau yn y dyfodol os na fydd ganddynt gynlluniau cadarn, tymor hwy, ar waith sy’n gysylltiedig â chynlluniau ariannol tymor canolig.
“Mae gormod o gynghorau yn methu â chymryd y camau angenrheidiol ac mae amser yn mynd yn brin. Rwyf yn eu hannog i ddilyn yr argymhellion, a’r cyngor a’r adnoddau ymarferol, a geir yn fy adroddiad.”