Llys Ynadon Caerdydd
Mae dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd wedi cael ei wahardd o’i waith ar ôl iddo gael ei gyhuddo o sbecian.

Roedd Gareth Williams, 47 oed,  wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod Gareth Williams wedi ei gyhuddo o dri achos o sbecian, neu voyeur-iaeth, mewn tŷ.

Cafodd ei arestio ddydd Iau, 23 Ionawr cyn ymddangos gerbron ynadon ar ddydd Sadwrn.

Mae pennaeth Ysgol Gyfun Glantaf, Alun Davies, wedi anfon llythyr at rieni’r plant yn eu hysbysu bod Gareth Williams wedi ei gyhuddo o droseddau a’i fod wedi ei wahardd o’i waith ar unwaith.

Ychwanegodd eu bod yn cydweithio gyda Heddlu’r De tra bod eu hymchwiliadau’n parhau a’u bod yn deall bod hyn yn gyfnod pryderus i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol.

Mae gan Ysgol Glantaf 1,500 o ddisgyblion.