Mae wardiau ysbytai yn Abertawe ac ym Mhen-y-bont  ar Ogwr ar gau oherwydd y salwch norofirws.

Meddai Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bod wardiau C a D yn Ysbyty Treforys a ward 10 yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi cau i ymwelwyr. Maen nhw wedi gofyn i bobl osgoi ymweld â’r wardiau dros y dyddiau nesaf oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol.

Dylai  rhieni sy’n ymweld â phlant neu deulu sy’n ymweld â chlaf sy’n agos at ddiwedd eu bywyd ffonio’r ward o flaen llaw i drefnu ymweliad.

Mae’r haint wedi lledu yn ysbytai de ddwyrain Cymru’r gaeaf hwn. Wythnos diwethaf, roedd dau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd  Caerdydd a’r Fro hefyd wedi’u heffeithio gan achosion o’r haint.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn galw ar bobl i gadw draw os ydyn nhw wedi cael symptomau yn ystod y 48 awr ddiwethaf, gan y gall yr haint ledaenu’n hawdd.

Mae’r salwch yn gallu bod yn beryglus i’r henoed, plant a phobl gyda chyflyrau iechyd fel clefyd y siwgr.

Mae wardiau hefyd wedi cau yn yr ysbytai isod:

Ysbyty  Cefn Coed; Cimla; Gellinudd; Glanrhyd; Gorseinon; Maesteg, Singleton;  Tonna ac Ystradgynlais.