Ysbyty Tywysoges Cymru
Mae ymchwiliad brys wedi cael ei lansio ar ôl i glaf farw ar ôl derbyn triniaeth mewn ambiwlans am bedair awr.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe a Bro Morgannwg wedi cadarnhau y bu farw’r claf yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen y Bont yr Ogwr ar 16 Ionawr. Roedd wedi bod yn disgwyl y tu allan i’r uned damweiniau ac achosion brys mewn ambiwlans am bedair awr.

Er ymdrechion y staff i’w achub, bu farw ddwy awr ar ôl cyrraedd yr uned, wedi i’w iechyd ddirywio’n gyflym.

Dywedodd y bwrdd iechyd: “Roedd yr uned frys yn hynod brysur, ac oherwydd hynny bu oedi cyn i gleifion gael eu gweld.

“Cyn i’r claf farw, roedd mewn ambiwlans am bedair awr gyda pharafeddygon.”

Mae’r Crwner wedi cael gwybod am farwolaeth y claf ac mae’r bwrdd yn cynnal arolwg brys er mwyn penderfynu os gall y farwolaeth fod wedi cael ei hosgoi.

Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod hi’n rhy fuan i wneud unrhyw sylwadau pellach.