Cynlluniau ar gyfer y neuaddau preswyl
Mi fydd £30 miliwn yn cael ei wario ar adeiladu neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ar safle Santes Fair.

Disgwylir i’r datblygiad newydd 600 ystafell fod wedi ei gwblhau erbyn Medi 2015, gyda’r gwaith dymchwel yn dechrau yng ngwanwyn 2014.

Mae tri chwmni wedi cael eu dewis i wneud y gwaith – Cityheart Cyf, sy’n arwain y prosiect, Vinci Construction UK Cyf, a CRM Cyf. Cwmni FaulknerBrowns yw’r penseiri.

Mae’r brifysgol yn dweud eu bod yn ymateb i’r galw gan fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn sydd eisiau byw mewn neuaddau yn hytrach na llety preifat.

Fe fydd caffi bar, siop, lle golchi dillad a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ar y safle gyda chais cynllunio yn cael ei gyflwyno cyn bo hir.

‘Teimlad o gymuned’

Bydd y datblygiad newydd yn golygu fod 200 o ystafelloedd a adeiladwyd yn y 1960au ar Safle’r Normal yn cael eu cau.

Dywedodd Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol: “Bydd yr ystafelloedd newydd yn cynnwys yr holl gyfleusterau y byddai myfyrwyr heddiw yn disgwyl eu gweld ar gampws preswyl modern.

“Wrth wraidd y cynllun mae ymrwymiad i ddarparu gwir ymdeimlad o gymuned gyda gwell amgylchedd i gymdeithasu a byw ynddo.”