Un o gyfarfodydd Gwir Gymru (o wefan yr ymgyrch)
Mae un o arweinwyr yr Ymgyrch Na wedi cydnabod mai’r Ymgyrch Ie sydd fwya’ tebyg o fod wedi ennill y Refferendwm Datganoli.
Fe ddywedodd Nigel Bull o’r mudiad Gwir Gymru nad oedd yn disgwyl ennill wrth i’r cyfri pleidleisio ddechrau ar hyd a lled Cymru.
Ond fe ddywedodd hefyd wrth Radio Wales nad oedd yn edifar am wrthod cymryd arian cyhoeddus i gefnogi’r ymgyrch Na.
Mae un pôl piniwn wedi dangos fod bron hanner pobol Cymru’n anhapus na chawson nhw ddigon o wybodaeth am bwnc y Refferendwm.
Roedd gwrthodiad Gwir Gymru i dderbyn arian cyhoeddus yn golygu nad oedd yr Ymgyrch Ie’n cael arian chwaith ac nad oedd ymgyrch fawr ar y naill ochr na’r llall.
Fe fydd y cyfri’n digwydd fesul sir trwy Gymru a’r canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.
Un o bryderon penna’r Ymgyrch Ie yw y bydd lefel y bleidlais yn isel iawn.