Fe fydd addysg mewn meysydd fel newyddiaduraeth a chyfraith yn allweddol wrth ystyried rhagor o ddatganoli i Gymru, meddai adroddiad newydd.

Mae’r corff Ein Dyfodol wedi holi pobol ifanc yn y ddau faes ac yn argymell addysg sy’n eu paratoi’n benodol ar gyfer delio gyda datganoli.

Ond maen nhw hefyd yn dweud bod yr holl newid a chomisiynau ac adroddiadau yn y maes yn creu ansicrwydd.

Yr ymchwil

Roedd y corff – cangen Gymreig mudiad arall o’r enw Undeb Sy’n Newid – wedi comisiynu myfyrwyr i holi newyddiadurwyr a chyfreithwyr ifanc a myfyrwyr yn y maes.

Roedd y ddau arolwg yn dangos bod angen addysg i baratoi gweithwyr yn benodol i allu rhoi sylw i ddatganoli ac i ddelio gyda deddfau Cymreig.

Ond roedd yna wahaniaeth mewn agweddau, gyda’r newyddiadurwyr ifanc yn llawer mwy eiddgar am ragor o ddatganoli na’r gweithwyr ym maes y gyfraith.

Roedd y newyddiadurwyr yn cefnogi datganoli darlledu, er enghraifft, gan gredu y byddai hynny’n creu rhagor o swyddi.

‘Sylfaenol’

“Mae addysg o bwys sylfaenol o ran y setliad datganoli presennol a rhagolygon datganoli yn y dyfodol,” meddai’r adroddiad. “Yn arbennig ym maes darlledu a chreu system gyfreithiol Gymreig.”