Does dim angen poeni os nad ydych chi’n siarad Cymraeg – dyna neges Cyngor Sir Benfro i ddarpar-ymgeiswyr am swyddi gofal cymdeithasol o fewn y sir.
Yn ôl gwefan sy’n hysbysebu eu swyddi gofal cymdeithasol, mae’r Cyngor yn pwysleisio mai Saesneg yn unig yw iaith y gweithle, ac felly nad oes angen sgiliau Cymraeg.
Er fod y cyngor yn dweud y byddan nhw’n newid ychydig ar eiriau’r hysbyseb, maen nhw wedi cadarnhau nad oes angen Cymraeg ar gyfer y swyddi.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud eu bod wedi cysylltu gyda’r Cyngor.
‘Dim lle blaenllaw’ i’r iaith
Pan dynnwyd sylw golwg360 i’r dudalen ar y wefan oedd yn trafod yr iaith ddoe, roedd y Cyngor hefyd yn cydnabod nad oedd yr iaith yn cael lle blaenllaw yn eu darpariaeth o ofal cymdeithasol.
Yn ôl y wefan: “Dyw Cymraeg ddim ond yn cael ei siarad fel iaith gyntaf mewn rhai rhannau o ogledd Sir Benfro. Iaith fewnol y cyngor yw Saesneg, felly does dim angen poeni os nad ydych chi’n ddwyieithog.”
Mae’r dudalen yn mynd ymlaen i ddweud eu bod yn cefnogi unrhyw weithwyr sydd yn dymuno dysgu Cymraeg gyda hyfforddiant am ddim – gan gynnwys dim ond “er mwyn meistroli ambell i frawddeg er cwrteisi i ddefnyddwyr y gwasanaeth”.
Cyngor yn cydnabod gwallau
Mewn ymateb i ymholiadau golwg360, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor nad oedden nhw wedi bwriadu portreadu eu neges yn y fath fodd, a’u bod yn bwriadu addasu’r testun yn fuan.
“Rydym yn cydnabod fod dweud nad yw’r Gymraeg yn flaenllaw yn ein gofal cymdeithasol ddim yn gywir, ac felly fe fyddwn yn dileu’r frawddeg honno,” meddai’r llefarydd. “Os yw cwsmer eisiau derbyn gwasanaeth drwy’r Gymraeg fe fyddwn ni’n darparu hyn.
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth iaith Gymraeg, ac fe fyddwn ni’n gwneud hyn unrhyw bryd y bydd gofyn i ni wneud.
“Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol Cymraeg yn ased gwerthfawr, ac fe fyddwn ni’n gwneud pob ymdrech i annog a gwerthfawrogi siaradwyr Cymraeg.
“Fe fyddwn ni’n addasu’r testun ar unwaith i adlewyrchu hyn.”
Dim angen Cymraeg ar staff
Fodd bynnag, fe gadarnhaodd y llefarydd nad oedd rheidrwydd fod ymgeiswyr i’w swyddi gofal cymdeithasol yn gorfod medru’r Gymraeg.
“Heblaw bod swydd yn benodol angen siaradwr Cymraeg (e.e. aelod o staff mewn ysgol cyfrwng Gymraeg) does dim angen i unrhyw ddeiliad swyddi fod yn siaradwyr Cymraeg,” cadarnhaodd y llefarydd.
“Yn anffodus, ac yn enwedig yn y maes hwn, byddai gofynion o’r fath yn lleihau’r dewis o ymgeiswyr y gallwn ni recriwtio ohonynt yn sylweddol.
“Fodd bynnag, fe fyddwn ni’n addasu’r testun er mwyn ei gwneud hi’n glir fod unrhyw aelodau o staff newydd yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg os nad ydyn nhw’n siarad yr iaith.”
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Rydym yn ymwybodol o’r achos ac yn y broses o gysylltu gyda’r Cyngor i ofyn am eglurhad o’r sefyllfa. Ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”