Bydd cynnig i newid y gyfraith ar roi organau yng Nghymru yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi ddiwedd y mis.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley y bydd yn codi’r pwnc yn ail siambr Senedd San Steffan, ac mae wedi galw ar Lywodreath San Steffan i wneud ei farn yn glir ar y mater.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth y Cynulliad ddweud eu bod nhw’n bwriadu symud o system o roi caniatâd i ddefnyddio organau i un o dynnu’r hawl yn ôl.

Dan yr ail system fe fyddai angen i bobol ddweud os nad ydyn nhw eisiau rhoi eu horganau.

“Rydw i’n falch bod y cwestiwn cyntaf ydw i wedi llwyddo i’w ddiogelu ar y mater pwysig yma,” meddai Dafydd Wigley.

“Yn anffodus mae’r oedi yn costio bywydau. Mae rhywun yng Nghymru yn marw bob 11 diwrnod wrth ddisgwyl am drawsblaniad organ.

“Mae yna gefnogaeth anferth ledled Cymru i newid y system.

“Fe fyddai newid y ddeddf yn golygu bod gan unrhyw un sydd ddim am roi organ yr hawl i wrthod gwneud.”

Yn gynharach eleni roedd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi gwneud cais i’r Cynulliad gael y pŵer dros roi organau.

Dywedodd y grŵp ymgyrchu Donate Wales bod mwy nag 490 o bobol yng Nghymru yn disgwyl cael trawsblaniad.

Roedd saith allan o bob 10 yn fodlon rhoi organau, ond dim ond tri ym mhob 10 oedd wedi cofrestru ar y rhestr rhoi organnau.

Fe fydd y drafodaeth yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 23 Mawrth.