Mae merch tair oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl damwain ffordd yng Nhrimsaran ger Llanelli y bore yma.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i Heol Llanelli yn Nhrimsaran ychydig cyn hanner dydd.
Roedd dwy ambiwlans ar y safle ac fe aed â’r ferch i Ysbyty Treforys, Abertawe.
Mae’r ffordd wedi bod ar gau ers y digwyddiad.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio 101.