Anthony Perrett a dau brotestiwr arall (Llun Greenpeace)
Mae chwech aelod o Greenpeace garcharwyd am brotestio yn erbyn tyllu am olew yn yr Arctic wedi gadael Rwsia ar ôl cael amnest gan lywodraeth Rwsia.

Mae Anthony Perrett o Gasnewydd yn eu plith ar ôl teulio can niwrnod mewn gwersyll y disgrifiodd fel gwersyll-carchar.

Mewn cyfweliad efo’r BBC y bore yma dywedodd ei fod yn fodlon dychwelyd i Rwsia i brotestio eto er nad oes gan Greenpeace gynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd.

“Dwi’n gobeithio bod y sgwrs am ddrilio yn yr Arctig wedi cychwyn rwan yn Rwsia,” meddai “a bod etholwyr Rwsia yn ymwybodol o hyn.”

Ychwanegodd ei fod yn falch o fod ar ei ffordd adref gan ddweud ei fod yn drist ei fod wedi colli’r Nadolig ond roedd wrth ei fodd o wybod y bydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cychwyn 2014.