Mae heddlu ym Mro Morgannwg yn apelio am dystion ar ôl lladrad yn Ninas Powys ddydd Llun yr wythnos hon.

Fe ddigwyddodd rhywbryd rhwng 1.15yp a 2.35yp yn ardal Railway Terrace, pan aeth lleidr i mewn i gartre‘ trwy ddrws patio agored.

Fe gafodd y lleidr ei styrbio, ac fe redodd ar hyd Ffordd Caerdydd i gyfeiriad Y Barri. Y gred, wedyn, ydi i’r lleidr redeg ar hyd Sunnybank Close ac i mewn i gae.

Cafodd gemwaith – yn cynnwys modrwyau a mwclis – eu dwyn, yn ogystal â dogfennau personol.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad, ffonio Heddlu De Cymru ar y rhif 101, neu gysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw trwy ffonio 0800 555111.