'Nain' Dim Byd
Bydd cyfres newydd o Dim Byd yn cychwyn ar y teledu yn y flwyddyn newydd, ac yn ôl y cynhyrchydd, hon fydd y “gyfres orau eto”.
Mae Bryn Terfel, Iolo Williams a Gerallt Pennant yn rhai o’r wynebau a fydd yn ymddangos yn y gyfres sy’n dechrau ar yr wythfed o Ionawr.
Am y tro cyntaf mi fydd pob pennod yn hanner awr yn hytrach na chwarter awr o hyd a bydd hen ffefrynnau fel Hanes Dy Nain, Ar y Bît, a’r Tad Maximillian i’w gweld eto.
‘Cadw’r gyfres yn ffresh’
“Dw i ddim wedi bod yn gwneud dim byd heblaw am Dim Byd,” meddai sgriptiwr a chynhyrchydd y sioe, Barry ‘Archie’ Jones.
“Roeddwn i’n gwybod bod rhaid gwneud rhywbeth gwahanol i gadw’r gyfres yn ffresh, felly mi fydd yna wynebau newydd a stori am Hogia’r Wyddfa yn rhedeg drwy’r gyfres. Rydan ni’n dilyn eu bywydau newydd nhw ers iddyn nhw stopio canu.”
‘Cyfle rhy dda i’w golli’
I un o aelodau Hogia’r Wyddfa, Myrddin Owen, roedd y cynnig i ‘wneud Dim Byd‘, yn gyfle rhy dda i’w golli.
“Roedd hi’n waith pleserus a hwyliog dros ben i gael ffilmio gyda chriw Dim Byd,” meddai Myrddin Owen.
“Mae gan Barry hiwmor gwahanol iawn i unrhyw berson dw i’n ei ’nabod; does dim sgript pan rydych chi’n ffilmio Dim Byd, felly mae’n rhaid actio yn dy ffordd dy hun.”