Carmel Napier cyn ymddiswyddo (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Aelod Seneddol wedi galw am ymddiheuriad i gyn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent am iddi gael ei gwthio “ar gam” i ymddiswyddo.

Mae Paul Flynn yn dweud fod adroddiad newydd yn dangos nad oedd sail i honni fod y cyn Brif Gwnstabl Carmel Napier yn gyfrifol am ystumio ffigurau troseddu.

“Fe ddaeth  y Prif Gwnstabl diwetha’ o dan bwysau i ymddiswyddo gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu,” meddai mewn blog.

“Yr unig gyhuddiadau difrifol a wnaed yn ei herbyn gan y Comisiynyddoedd ei bod yn ystumio ystadegau troseddu. Mae’r adolygiad hwn yn ei chlirio ac mae ymddiheuriad yn ddyledus.”

Y cefndir

Mae Paul Flynn wedi bod yn feirniadol ers tro o’r Comisiynydd yng Ngwent, Ian Johnston, ac mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus pan ddywedodd tystion fod heddluoedd ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn addasu ffigurau.

Roedd Ian Johnston wedi comisiynu adolygiad o’r ffigurau troseddu yng Ngwent ac roedd hwnnw wedi dod o hyd i broblemau gyda hanner y 50 trosedd yn yr astudiaeth.

Ond doedd y panel adolygu ddim wedi gweld tystiolaeth fod y ffigurau’n cael eu hystumio ar orchymyn uchel swyddogion.