Nelson Mandela (Llun: PA)
Mae arweinydd y mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru wedi condemnio llywodraethau diweddar De Affrica am fethu â chyflawni gweledigaeth Nelson Mandela tros degwch cymdeithasol.

Ac yntau draw yn Ne Affrica ar gyfer angladd y cyn Arlywydd, mae Hanef Bhamjee’n dweud bod olynwyr Mandela wedi methu â chadw eu haddewid i gael gwared ar gymryd mantais econoaidd, ar gyni cymdeithasol a thlodi difrifol.

Mae hefyd yn beirniadu llywodraethau’r Gorllewin a chwmnïau rhyngwladol am fethu â buddsoddi i helpu gyda diwygio perchnogaeth tir ac yn hallt ei farn am y gwynion cyfoethog sydd wedi methu â buddsoddi’n fewnol i greu gwaith.

Beirniadu cyfoeth a llygredd

“Mae’r cyfoethog a’r llwgr yn mynd yn gyfoethocach a’r bwlch rhwng cyfoethog a thlawd yn lledu,” meddai mewn datganiad o Dde Affrica, ac yntau’n aelod o blaid yr ANC ac wedi cyfarfod â Nelson Mandela sawl tro ers pan oedd yn ymgyrchydd ifanc yn Ne Affrica yn yr 1950au.

“Nid dros yr hyn sydd gyda ni nawr y gwnaethon ni ymladd ac nid bwriad yr ymrafael oedd i gyfoethogi lleiafrif o’r gwynion pwerus, Indiaid, Affricaniaid a phobol liw.”

Fe awgrymodd hefyd fod y broses o gymodi wedi mynd yn rhy bell gan fod y gormeswyr wedi gallu cadw eu cyfoeth.

‘Gwneud eu dyletswydd’

“Hyd yn oed ym marwolaeth Nelson Mandela mae pobol yn gofyn am gyflawni ei weledigaeth. Rhaid i rymoedd y funud dalu sylw i’w etifeddiaeth yn Ne Affrica a gwneud eu dyletswydd trwy wasanaethu’r bobol gydag ymrwymiad tebyg i Mandela. Mae’r bobol yn aros,” meddai.

Hanef Bhamjee oedd Ysgrifennydd yr Ymgyrch Gwrth-Apartheid yng Nghymru yn anterth y protestiadau yn erbyn y drefn ac mae bellach yn Ysgrifennydd i’w olynydd ACTSA Cymru (Action for Southern Africa).