Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar S4C i ailystyried ei phenderfyniad i ganslo’r gyfres ‘Rasus’, ar ôl i’r sianel gyhoeddi na fyddai’r rhaglenni yn parhau.
Mae’r rhaglen rasys ceffylau wedi bod yn cael eu darlledu ers dros ugain mlynedd o gwrs rasio Tir Prince yn Nhowyn.
Dywedodd Darren Millar ei fod wedi anfon llythyr at S4C yn gofyn iddyn nhw esbonio’r penderfyniad ar ôl i nifer o bobl yn ei etholaeth gysylltu ag ef yn mynegi pryder am y penderfyniad, gan ddweud fod y rhaglen wedi denu llawer o ymwelwyr i’r ardal.
“Mae Rasus wedi bod yn rhedeg ers 21 mlynedd ac wedi cael effaith bositif yn Nhowyn gan ddod a budd economaidd yn lleol a helpu i hybu’r iaith Gymraeg, yn enwedig i’r rheiny sydd wedi symud i Gymru o ardaloedd eraill yn y DU,” meddai Darren Millar mewn datganiad.
“Rwyf wedi gofyn am esboniad am yr hyn sydd y tu ôl i’r penderfyniad ac wedi annog y sianel i ailystyried ei safbwynt.”