Maes Awyr Caerdydd
Mae’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cyhoeddi cynlluniau i roi benthyciad o £10 miliwn i wella cyfleusterau a bodloni amcanion cynllun busnes Maes Awyr Caerdydd.

Bydd yr arian, sy’n rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15 a gytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ddoe, yn cael ei ddefnyddio mewn cyfres o welliannau i deithwyr a chyflwyno technoleg newydd yn y maes awyr.

Bydd cam cyntaf y gwaith yn cael ei wneud cyn yr haf y flwyddyn nesaf a fydd yn cynnwys ardal diogelwch newydd gyda’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn delio a rhagor o deithwyr a chyfleuster archebu tacsi newydd.

Bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu dros 12 mlynedd a bydd gwelliannau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl y cyfnod cyntaf .

Meddai Edwina Hart: “Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn gwneud cynnydd yn nhwf nifer y teithiau a chyrchfannau.

“Bydd yr arian newydd yn helpu i wella cyfleusterau ymhellach yn y maes awyr a sicrhau bod y cyfleusterau ar gyfer teithwyr yn cyrraedd y safonau angenrheidiol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”