Neuadd Pantycelyn
Heno bydd Prifysgol Aberystwyth yn cwrdd â myfyrwyr i gyflwyno adroddiad sy’n asesu effaith cau Neuadd Pantycelyn ar yr iaith Gymraeg.

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan Cwmni Iaith a fu’n holi barn myfyrwyr ac yn ystyried manteision ac anfanteision y symud i Fferm Penglais.

Doedd y Brifysgol ddim yn fodlon dangos copi o’r adroddiad i gylchgrawn Golwg ddoe, gan ddweud bod angen i Gyngor y Brifysgol ei weld a’i drafod yn gyntaf yn eu cyfarfod brynhawn Gwener.

Ond daeth copi i law ac fe allwch ei ddarllen yma.

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn anhapus gyda’r cynnwys.

“Mae sawl agwedd yr adroddiad yn hynod o siomedig,” meddai Mared Ifan, llywydd UMCA.

“Nid yw’r adroddiad yn gwneud cymariaethau dilys rhwng Pantycelyn a Fferm Penglais, ac mae yna hollt rhwng y dystiolaeth brin sydd yn cael ei gynnig yn yr adroddiad ac argymhellion yr adroddiad.

“Nid yw’r adroddiad yn trafod effaith ieithyddol newid i drefn fflatiau, lleihad yn y cyfleusterau cymdeithasol, nac ychwaith yr effaith o symud i ochr arall y pentref myfyrwyr.”

Nid oedd Prif Weithredwr Cwmni Iaith, Gareth Ioan, am wneud unrhyw sylw cyhoeddus am yr adroddiad.

Ond mae Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bendant fod yr adroddiad iaith yn un “gwerthfawr”.

“Mae’n argymell bod y Brifysgol yn bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau cyfredol i sefydlu safle ar Fferm Penglais sydd i’w benodi yn ardal breswyl benodedig Gymraeg,” meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan.

Cau Pantycelyn = talu mwy am lety en suite

Bydd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn gorfod talu hyd at £1,724 y flwyddyn yn fwy am eu llety os bydd Neuadd Pantycelyn yn cau.

Bwriad y Brifysgol yw symud y myfyrwyr i bentref myfyrwyr Fferm Penglais, a chodi £4,802 y flwyddyn am fflatiau en suite ble bydd gofyn iddyn nhw goginio eu bwyd eu hunain.

Ar hyn o bryd mae dau fyfyriwr yn rhannu ‘stafell wely yn Neuadd Pantycelyn, ac yn cael prydau poeth yno, yn talu £3,078 y flwyddyn am lety, a ‘stafell sengl yn costio £3,534.

Dywedodd Mared Ifan ei bod hi’n “siom fawr” nad oedd y Brifysgol wedi ystyried eu pryderon ynglŷn â chostau’r llety.

Ymateb y Brifysgol

Yn ôl y Brifysgol maen nhw’n “cynnig sicrwydd llety i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ac mae Bwrsariaeth Breswyl sydd yn cynnig gostyngiad o £400 oddi ar ffioedd llety’r Brifysgol ar gael i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd yn gwneud Aberystwyth yn ddewis cadarn erbyn 30 Mehefin 2014.

“Er mwyn hwyluso’r baich ariannol, mae’r Brifysgol yn cynnig talu taliad blynyddol am lety cyn dechrau sesiwn academaidd, neu drwy uchafswm o dri rhan daliad ym mis Hydref, Ionawr ac Ebrill.”

Mwy am y stori hon yng nghylchgrawn Golwg.