Cymru 26–30 Awstralia
Colli fu hanes Cymru mewn clasur o gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd a gorffennodd y gêm gyda Chymru ar dân ond Awstralia oedd y tîm gorau yn y cyfnod rhwng hynny, a doedd dau gais George North ddim yn ddigon i drechu’r ymwelwyr o Hemisffer y De.
Hanner Cyntaf
Cafodd Cymru’r dechreuad perffaith gyda chais i North yn yr ail funud. Gwrthymosododd yr asgellwr o safle’n ddwfn yn ei hanner ei hun cyn manteisio ar gamgymeriad amddiffynnol gan Adam Ashley-Cooper i dirio.
Ychwanegodd Leigh Halfpenny’r ddau bwynt cyn llwyddo gyda chic gosb hefyd i ymestyn mantais ei dîm i ddeg pwynt.
Sgoriodd Christian Leali’fano bwyntiau cyntaf Awstralia gyda chic gosb yn fuan wedyn ond ymatebodd Halfpenny gydag un arall i adfer y bwlch deg pwynt.
Roedd hi’n gêm agored iawn a daeth Awstralia yn fwyfwy iddi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gan sgorio cais gwych. Leali’fano oedd y sgoriwr ond rhaid rhoi peth o’r clod i ddwylo gwych Quade Cooper ar gyfer y bas olaf ond un. Trosodd Leali’fano ei gais ei hun i gau’r bwlch i dri phwynt.
Tarodd Halfpenny’r postyn wedi hynny ac fe gymerodd Dan Biggar y dyletswyddau cicio gan lwyddo gyda’i gyntaf ddeg munud cyn yr egwyl.
Ond anfonwyd y maswr o’r cae am ddeg munud yn fuan wedi hynny gan iddo ladd y bêl gydag Awstralia mewn safle peryglus.
Ceisiodd amddiffyn pedwar dyn ar ddeg Cymru ddal eu tir tan yr egwyl ond croesodd Israel Folau am ail gais ei wlad er gwaethaf dwy dacl enfawr gan North a Richard Hibbard yn gynharach yn y symudiad.
Ychwanegodd Leali’fano’r ddau bwynt ychwanegol i ddod a hanner gwych o rygbi i ben a rhoi ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Ail Hanner
Ymestynnodd Leali’fano’r fantais i bedwar pwynt gyda chic gosb yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i Awstralia adeiladu ar eu diweddglo cryf i’r hanner cyntaf.
Roedd dwy sgôr rhwng y ddau dîm gyda hanner awr i fynd yn dilyn cais Joseph Tomane a throsiad a chic gosb gan Leali’fano, 16-30 y sgôr.
Wnaeth Cymru ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ac roeddynt yn ôl yn y gêm toc cyn yr awr pan rwygodd North (a oedd bellach wedi symud i’r canol) trwy ganol amddiffyn Awstralia i sgorio o dan y pyst. Trosodd Biggar y cais a dim ond saith pwynt oedd ynddi gyda chwarter y gêm i fynd.
Cymru a gafodd y gorau o’r chwarter hwnnw ond ar wahân i un gic gosb o droed yr eilydd, Rhys Priestland, wnaeth y tîm cartref ddim creu argraff ar y sgor-fwrdd.
Gorffennodd Awstralia’r gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i Quade Cooper ond daliodd y Walabïaid eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Dipyn o gêm felly ond yr un hen stori wrth i un o gewri Hemisffer y De drechu’r Cymry.
.
Cymru
Ceisiau: George North 2’, 59’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 3’, Dan Biggar 60’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 12’ 18’, Dan Biggar 31’, Rhys Priestland 69’
Cerdyn Melyn: Dan Biggar 36’
.
Awstralia
Ceisiau: Christian Leali’fano 19’, Israel Folau 37’, Joseph Tomane 49’
Trosiadau: Christian Leali’fano 21’, 39’, 50’
Ciciau Cosb: Christian Leali’fano 14’, 43’, 53’
Cerdyn Melyn: Quade Cooper 75’