Treviso 26–26 Gleision Caerdydd

Cafodd y Gleision gêm gyfartal yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sadwrn wrth herio Treviso yn y Stadio Monigo.

Roedd y Cymry ar y blaen ar yr egwyl diolch i geisiau Chris Czekaj a Robin Copeland ond tarodd Treviso yn ôl yn yr ail hanner ac roedd angen cic gosb hwyr Gareth Davies ar y Gleision i achub gêm gyfartal yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd cic gosb gynnar Mat Berquist Treviso ar y blaen ond tarodd y Gleision yn ôl gyda chais da i Chris Czekaj. Lledodd yr olwyr y bêl yn gyflym a chroesodd yr asgellwr yn y gornel chwith, 3-7 yn dilyn trosiad Gareth Davies.

Cyfnewidiodd Berquist a Davies ddwy gic gosb yr un wedi hynny cyn i’r wythwr, Robin Copeland, groesi am ail gais y Gleision. Trosodd Davies hwn hefyd ac roedd gan y rhanbarth o Gymru fantais dda o ugain pwynt i naw ar yr egwyl.

Ail Hanner

Diflannodd y fantais honno serch hynny wrth i’r Eidalwyr daro’n ôl gyda dau gais yn hanner cyntaf yr ail hanner. Croesodd y blaenasgellwr, Alessandro Zanni, i ddechrau cyn i’r mewnwr, Edoardo Gori, ychwanegu ail ac roedd Treviso ar y blaen diolch i ddau drosiad Berquist. 23-20 gydag ugain munud i fynd.

Treuliodd Michele Rizzo ddeg munud yn y gell gosb wedi hynny ac er i Davies unioni’r sgôr o’r gic gosb ganlynol roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen erbyn i’r prop ddychwelyd i’r cae diolch i dri phwynt arall o droed Berquist.

Cyfle’r Gleision oedd hi i chwarae gydag un yn llai yn y deg munud olaf yn dilyn cerdyn melyn i’r clo, Filo Paulo, ond fe lwyddodd y Cymry i achub gêm gyfartal serch hynny gyda chic gosb Davies bedwar munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn ddigon i gadw’r Gleision uwch law Treviso yn nhabl y Pro12 ond maent yn llithro un lle i’r nawfed safle oherwydd buddugoliaeth Caeredin nos Wener.

Treviso

Ceisiau: Alessandro Zanni 49’, Edoardo Gori 57’

Trosiadau: Mat Berquist 49’, 57’

Ciciau Cosb: Mat Berquist 3’, 12’, 22’, 68’

Cerdyn Melyn: Michele Rizzo 60’

.

Gleision

Ceisiau: Chris Czekaj 7’, Robin Copeland 31’

Trosiadau: Gareth Davies 7’, 31’

Ciciau Cosb: Gareth Davies 13’, 17’, 61’, 76’

Cerdyn Melyn: Filo Paulo 71’