David Jones
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi posteri ar swyddfa’r gweinidog llywodraeth, David Jones, yn rhan o’u hymgyrch dros gadw annibyniaeth S4C.
Mae’r posteri’n dweud “David Jones Gwrandewch ar lais pobl Cymru” ac wedi’u gosod neithiwr ar swyddfa AS Gorllewin Clwyd, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru.
Mae’r Gymdeithas yn cyhuddo’r Adran Dreftadaeth yn Llundain o dorri arian y sianel a’i rhoi dan adain y BBC, heb drafod â phobol Cymru a gan anwybyddu barn arweinwyr y pedair plaid Gymreig.
“Dyw Llywodraeth Prydain ddim wedi ystyried na chynnwys cynrychiolaeth o Gymru yn eu cynlluniau ar gyfer S4C o gwbl yn y broses hon sydd yn hollol sarhaus,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Rydym am bwyso ar Lywodraeth Prydain i wrando ar alwad ein pleidiau gwleidyddol er mwyn gallu gwneud penderfyniad synhwyrol ar ddyfodol y sianel.”
Mae’r Gymdeithas yn honni y bydd S4C yn colli ei hannibyniaeth.