Carl Sargeant
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun benthyg newydd gwerth £170 miliwn o ecwiti a rennir a fydd yn ceisio helpu pobol i brynu eu cartrefi eu hunain yn ogystal â rhoi hwb i’r diwydiant adeiladu tai yng Nghymru.

Cafodd Cymorth i Brynu – Cymru ei lansio heddiw gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant AC.

Dywedodd: “Un o ganlyniadau’r argyfwng ariannol byd-eang a’r dirwasgiad a’i dilynodd fu tynhau’r amodau ar gyfer rhoi benthyg arian ac yn achos morgeisi, cynyddu’r blaendal y gofynnwyd i brynwyr ei neilltuo.  Gwnaeth hyn dai’n anoddach eu fforddio ac o ganlyniad, cafodd llai o dai eu hadeiladu wrth i adeiladwyr ffrwyno’u cynlluniau.

“Mae’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn gobeithio datrys y problemau hyn trwy ei gwneud yn bosibl i’r bobl hynny sydd heb fawr o arian i dalu blaendal ond sy’n gallu fforddio morgais, i brynu eu cartref eu hunain. Gwneir hynny trwy gynnig benthyciad ecwiti a rennir Llywodraeth Cymru.  Bydd y benthyciad ecwiti hwn yn cau’r bwlch rhwng pris prynu’r eiddo a’r arian sydd gan brynwyr i dalu’r blaendal a’r morgais.”

O heddiw ymlaen, mae cyfle i adeiladwyr gofrestru hefo cynllun i baratoi ar gyfer rhoi’r benthyciadau ecwiti cyntaf ar 2 Ionawr 2014. Bydd y cynllun yn dod i ben ar Fawrth 31 2016.

Benthyciad

Er mwyn bod yn gymwys am fenthyciad ecwiti a rennir, sy’n werth rhwng 10%-20% o bris yr eiddo, rhaid:

  • bod yr eiddo yn eiddo newydd, wedi’i adeiladu gan adeiladwr sydd wedi’i gofrestru gyda’r cynllun;
  • na fydd pris prynu’r eiddo’n fwy na £300,000;
  • bod gan y prynwr flaendal o 5% a’i fod yn gallu profi ei fod yn gallu fforddio ad-dalu’r ymrwymiadau ariannol hyn yn y dyfodol;
  • mai hwn yw unig gartref y prynwr (nid yw Cymorth i Brynu – Cymru yn cael helpu eiddo prynu-i-osod).

Ychwanegodd Carl Sargeant: “Mae’n bwysig bod pobl yn deall telerau ac amodau’r benthyciadau hyn.  Bydd gofyn i’r bobl sy’n manteisio ar y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru ad-dalu’r benthyciad ecwiti a rennir cyn pen 25 mlynedd. Bydd ganddyn nhw’r opsiwn hefyd i ad-dalu’r benthyciad unrhyw bryd yn y cyfnod hwnnw a thrwy hynny, cael y rhyddid i greu cynllun ad-dalu sy’n ateb eu gofynion nhw.”

‘Hir ddisgwyliedig’

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am oedi mor hir cyn cyflwyno’r cynllun hir ddisgwyliedig. Dywedodd llefarydd  tai’r blaid Peter Black: “Mae cynllun ecwiti’r Llywodraeth Glymblaid wedi bod o fudd mawr i brynwyr tai yn Lloegr ac wedi rhoi hwb sylweddol i’r diwydiant adeiladu. Yn anffodus, oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru, mae pobl wedi gorfod ymdopi heb y cymorth angenrheidiol yma tan heddiw. Rwy’n falch fod y cynllun yma wedi cael ei lansio o’r diwedd.”