Carwyn Jones
Bydd Prif Weinidog Cymru yn siarad am bwysigrwydd hybu Cymru i weddill y byd er mwyn i bobl Cymru elwa.

Disgwylir i Carwyn Jones ddweud fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gofiadwy i Gymru am fod buddsoddiad mewnol gan wledydd tramor wedi cynyddu ac oherwydd cyhoeddiadau y bydd y wlad yn cynnal digwyddiadau rhyngwladol pwysig fel cynhadledd NATO, a fydd yn cael ei chynnal yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd y flwyddyn nesaf.

Bydd Carwyn Jones yn annerch digwyddiad i ddathlu 40 mlynedd ers i’r  Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol gael ei sefydlu.

“Mae Cymru yn wlad fechan sydd eisoes wedi gweld gwelliannau mawr,” meddai Carwyn Jones.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud y mwyaf o’r cyfle i gynnal cynhadledd NATO’r flwyddyn nesaf gan ychwanegu ei fod yn gyfle i ddangos pwysigrwydd maes awyr Caerdydd fel mynediad i Gymru.

Bydd Carwyn Jones yn cyhoeddi y bydd yn ymweld ag Uganda ym mis Ionawr ynghyd â dirprwyaeth fasnachol fydd yn ceisio creu cysylltiadau busnes gyda chwmnïau o’r wlad honno.