George Osborne
Mae pwerau newydd a fydd yn gosod uchafswn ar gostau benthyciadau diwrnod cyflog wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau  dywedodd y Canghellor George Osborne y byddai’r cyfyngiadau yn cynnwys ffioedd ar y benthyciadau yn ogystal a llog.

Mae’r pwerau newydd yn cael eu cyflwyno fel gwelliant i’r Bil Diwygio Bancio.

Y rheolydd ariannol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) fydd yn penderfynu ar lefel y cap.

Dywedodd swyddogion y Trysorlys fod Llywodraeth Prydain wedi ystyried y cyfyngiadau ers peth amser a bod “tystiolaeth gynyddol” ryngwladol i gefnogi’r newid.

‘Tro pedol’

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd y Blaid Lafur y bydden nhw’n gosod uchafswm ar y gost o gredyd gan gwmnïau benthyg, er mwyn gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn gallu ad-dalu’r arian.

Mae George Osborne wedi gwadu ei fod wedi ildio i bwysau Llafur drwy wneud tro pedol.

“Rydym ni eisiau marchnadoedd sy’n gweithio i bobol, ac mae pobol sy’n credu mewn marchnad rydd, fel fi, eisiau i’r farchnad gael ei rheoli’n gywir,” meddai.