Mae’r bygythiad i blismona mewn cymunedau, sy’n cael sylw mewn adroddiad gan gyn gomisiynydd Heddlu’r Met, yn achos “pryder dybryd”, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband.

Fe fydd Comisiwn Annibynnol yr Heddlu yn gwneud 37 o argymhellion i drawsnewid plismona yng Nghymru a Lloegr heddiw, gyda’r pwyslais ar gael plismyn yn ôl ar batrôl mewn cymunedau ac adfer ymddiriedaeth yn yr heddlu.

Yn ôl yr Arglwydd Stevens fe glywodd y Comisiwn bod plismona “yn cilio” o’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y Blaid Lafur, ac yn ystod lansiad yr adroddiad heddiw, mae disgwyl i Ed Miliband ddweud mai’r adolygiad yma fydd y cam cyntaf i roi cyfeiriad newydd i blismona yn y 21ain ganrif.

Ond mae wedi mynegi pryder bod plismona mewn cymunedau dan fygythiad a bod “gwasanaethau mewn perygl o ymbellhau oddi wrth gymunedau.”

Wrth siarad â’r Sunday telegraph, mae’r Arglwydd Stevens wedi dweud na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer y diwygiadau ond mae wedi awgrymu ffyrdd i wneud arbedion o £60 miliwn hyd at 2016/17 – drwy dalu’r pris isaf am offer cyffredin. Bydd y Blaid Lafur yn honni y gallai hynny dalu am 500 o swyddogion ychwanegol.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys rhoi mwy o ddylanwad i’r cyhoedd ynglŷn â blaenoriaethau plismona yn eu cymunedau ac atal heddluoedd rhag ymchwilio i achosion o gamymddygiad ymhlith eu swyddogion eu hunain. Fe fydd plismyn hefyd yn wynebu cael eu diarddel os ydyn nhw’n euog o gamymddygiad.

Mae’r Arglwydd Stevens yn cydnabod bod hyder yn yr heddlu wedi dioddef yn enbyd yn sgil helynt Hillsborough a ffrae Plebgate, ac o ganlyniad mae’n argymell diwygio safonau proffesiynol  heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.