Mae Heddlu’r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn tŷ ym Mae Colwyn bore ma.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i’r tŷ yn Grove Park, Bae Colwyn am 8.45yb bore dydd Llun, lle cafwyd hyd i gorff dyn yn ei 80au.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Ar hyn o bryd mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un ‘anesboniadwy’ ac mae’r crwner wedi ei hysbysu.