Stadiwm y Mileniwm
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn arbrofi gyda system tocynnau newydd ar gyfer y gemau yn erbyn yr Ariannin a Tonga yn y bythefnos nesaf.

Bydd cefnogwyr yn medru printio’u tocynnau papur ei hunain adref ar ôl prynu eu tocyn ar-lein ar gyfer y ddwy gêm, hyd at ddeg munud cyn i’r gemau ddechrau.

Bydd gan bob tocyn gôd bar unigryw, ac yn ôl yr Undeb bydd hyn yn gwella diogelwch o gwmpas y stadiwm ar ddiwrnod gemau yn ogystal â thaclo’r broblem o docynnau’n cael eu gwerthu ar y farchnad ddu.

Mae system côd bar newydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer nifer o ddigwyddiadau diweddar – ac fe fydd y system newydd yn debyg iawn i’r rheiny sydd i gael ar gyfer tocynnau hedfan.

Bydd y system newydd yn golygu na fydd rhaid i gefnogwyr giwio ar ddiwrnod y gêm i gasglu’u tocynnau, nac ychwaith dalu i gael y tocynnau wedi’u postio iddyn nhw o flaen llaw.

Bydd Cymru’n wynebu’r Ariannin ddydd Sadwrn yma am 2.30yp, gyda’r tocynnau drytaf yn £40, cyn herio Tonga nos Wener nesaf y 22ain o Dachwedd am 7.30yh.

“Rydym wedi defnyddio’r system ar gyfer digwyddiadau diweddar, llai,” meddai Rheolwr y Stadiwm Mark Williams. “Ond dyma’r tro cyntaf y bydd cefnogwyr yn medru mynychu gêm Cymru yn y modd yma.

“Mae cefnogwyr wedi arfer talu ar-lein gyda chardiau credyd – ond peth arall i’w gofio yw y dylid dod a ffurf o adnabod yn ogystal â’r tocyn printio-gartref er mwyn osgoi unrhyw broblemau posib.”

Roedd torf o 66,000 yno i wylio Cymru’n herio De Affrig y penwythnos diwethaf, gyda 43,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm yn erbyn yr Ariannin hyd yn hyn.