Mae chwaraewr canol cae Manchester City, Emyr Huws, yn un o dri enw newydd sydd wedi cael ei ychwanegu at garfan Cymru i wynebu’r Ffindir ddydd Sadwrn.
Mae’r golwr Lewis Price o Crystal Palace, a chwaraewr canol cae Hibernian Owain Tudur Jones hefyd wedi cael eu galw fewn.
Mae nhw’n ymuno â Jack Collison, gafodd ei enwi ddoe yn lle Andrew Crofts, a dynnodd allan gydag anaf.
Mae David Vaughan a Boaz Myhill hefyd wedi tynnu allan o’r garfan – ond fe gymerodd Gareth Bale ac Aaron Ramsey ran llawn yn yr ymarfer heddiw ac mae’n ymddangos fod y ddau seren yn hollol iach ar gyfer y gêm.
Boi Tre’r Sosban
Dyw Emyr Huws, 20 oed ac yn wreiddiol o Lanelli, heb gael cap i dîm cyntaf Cymru eto, ond mae wedi chwarae dros y tîm dan-21.
Mae wedi bod yn gapten ar dîm dan-21 Man City, ac fe dreuliodd gyfnod ar fenthyg yn Northampton y tymor diwethaf.
Carfan diweddaraf Cymru:
Wayne Hennessey (Yeovil, ar fenthyg o Wolves), Owain Fôn Williams (Tranmere), Lewis Price (Crystal Palace); Ben Davies (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Sam Ricketts (Wolves), Ashley Richards (Huddersfield, ar fenthyg o Abertawe), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), James Collins (West Ham), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic); Joe Allen (Lerpwl), Andy King (Leicester), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Cotterill (Doncaster), Jack Collison (West Ham), Emyr Huws (Man City), Owain Tudur Jones (Hibernian); Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Jermaine Easter (Millwall).