Mae’n ymddangos mai dau newid fydd i dîm rygbi Cymru cyn eu hail gêm yng nghyfres yr Hydref yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sadwrn.
Y disgwyl yw y bydd Ashley Beck a Paul James yn llenwi esgidiau Jonathan Davies ac Adam Jones.
Roedd gan Gymru nifer o anafiadau cyn yr ornest galed yn erbyn de’r Affrig ddydd Sadwrn diwetha’, gyda Jamie Roberts, Alex Cuthbert and Eli Walker yn methu â chwarae.
Symud Halfpenny a North?
Mae son am symud y cefnwr Leigh Halfpenny i’r asgell, a’r asgellwr George North i ganol y cae. Ond mae Rob Howley wedi dweud ei bod hi’n well cadw pethau fel ag y maen nhw ar y funud:
“Rydw i wedi trafod gyda George ac mae’r ddau ohonom yn meddwl ei bod hi’n bwysig iddo aros ar yr asgell yn y gêm nesaf a cheisio cael y bêl yn amlach na’r wythnos ddiwethaf.”
Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei dîm yfory.