Casnewydd 3–0 Portsmouth
Mae Casnewydd drwodd i rownd gynderfynol adran ddeheuol Tlws Johnstone’s Paint ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Portsmouth ar Rodney Parade nos Fawrth.
Er i’r tîm cartref orffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch David Pipe, cawsant fuddugoliaeth gyfforddus diolch i goliau Conor Washington (2) ac Adedeji Oshilaja.
Roedd y Cymry ar y blaen wedi dim ond pum munud diolch i gôl gyntaf Washington ac roedd y fantais wedi ei dyblu chwarter awr yn ddiweddarach yn dilyn cynnig Oshilaja – y chwaraewr ifanc sydd ar fenthyg o Gaerdydd.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r ymwelwyr yn yr ail gyfnod pan dderbyniodd Pipe gerdyn coch am dacl beryglus.
Ond Casnewydd a gafodd y gair olaf serch hynny wrth i Washington setlo pethau saith munud o’r diwedd gyda’i ail gôl ef a thrydedd ei dîm.
.
Casnewydd
Tîm: Stephens, Pipe, Oshilaja, Willmott, Yakubu, Naylor, Crow, Flynn (Minshull 61′), Jolley (Jackson 72′), Washington, Worley
Goliau: Washington 5’, 83’, Oshilaja 19’
Cardiau Melyn: Crow, Flynn, Jackson
Cerdyn Coch: Pipe
.
Portsmouth
Tîm: Carson, N’Gala, East, Cooper, Devera, Bradley, Holmes, Barcham, Bird, Craddock (Connolly 55′), Padovani
Cardiau Melyn: Bradley, Padovani
.
Torf: 2,846