Wrecsam 3–2 Gateshead

Cwblhaodd Andy Bishop ei hatric yn yr amser a ganiateir am anafiadau, i ennill y gêm i Wrecsam ar y Cae Ras nos Fawrth.

Gateshead odd yr ymwelwyr i ogledd Cymru yn Uwch Gynghrair Skrill ac roedd angen gôl hwyr Bishop ar y Dreigiau i’w hennill hi er iddynt fynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Dyna pryd y rhwydodd Bishop ei gyntaf wedi i David Artell benio cic rydd i’w lwybr. Ond roedd yr ymwelwyr ar y blaen erbyn hanner amser diolch i ddwy gôl mewn dau funud gan James Marwood ac Adam Boyes.

Roedd amgen ymateb gan y Dreigiau yn yr ail gyfnod a dyna a gafwyd gyda Bishop yn unioni’r sgôr o’r smotyn chwarter awr o’r diwedd yn dilyn trosedd James Curtis ar Artell.

Ond doedd tîm Andy Morrell ddim yn fodlon â phwynt ac fe gawsant y tri yn y trydydd munud o amser anafiadau pan rwydodd Bishop ei drydedd o’r noson a’i bumed mewn dwy gêm wrth benio croesiad Jay Harris i gefn y rhwyd.

Buddugoliaeth ddramatig i’r Dreigiau felly a buddugoliaeth sydd yn eu codi i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Gyngres.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Wright, Ashton, Artell, Carrington, Clarke, Keates, Harris, Ogleby (Bailey-Jones 62′), Bishop, Ormerod (Cieslewicz 62′)

Goliau: Bishop 23, [c.o.s.] 77’, 90’

Cardiau Melyn: Wright 67’, Bailey-Jones 90’

.

Gateshead

Tîm: Bartlett, Clark, Baxter, Curtis, Sirrell, Oster (Ramshaw 72′), Chandler, Marwood, Turnbull, Larkin, Boyes (Brown 73′)

Goliau: Marwood 36’, Boyes 37’

Cardiau Melyn: Sirrell 56’, Bartlett 77’, Curtis 81’

.

Torf: 2,469