Roedd hi’n fuddugoliaeth arall i Dîm yr wythnos Golwg360, sef tîm hoci Caernarfon wrth iddyn nhw barhau a’u rhediad da wrth drechu Porthmadog 3-0 ddydd Sadwrn.
Cafwyd goliau gan Catrin Owen, Ceri Welsh ag Esther Elin i sicrhau’r fuddugoliaeth i genod y Dre, eu trydedd buddugoliaeth yn olynol.
Ond fe gafodd chwaraewyr Caernarfon wers o ryw fath hefyd. Roedd yn rhaid i Sian Welsh, un o’r rheolwyr, gamu i mewn ar y funud olaf i chwarae yn y gôl, ac fe ddangosodd hi sut oedd ei gwneud hi hefyd wrth arbed ergyd gosb!
Doedd y sgôr terfynol ddim mor swmpus â’r wythnos ddiwethaf, pan drechon nhw Rhyl a’r Cyffiniau o 8-1, ond roedd eu pedwaredd buddugoliaeth o’r tymor yn ddigon i fodloni merched Caernarfon.
Mae eu gêm nesaf nhw yn erbyn Bangor ddydd Sadwrn yma.
Os hoffech chi fod yn Dîm yr Wythnos Golwg360, cysylltwch efo ni drwy e-bost neu ar Twitter gyda’r hashnod #timyrwythnos.
Tîm Caernarfon:
Manon Williams (cpt), Ceri Welsh, Lois Welsh, Sian Welsh, Cerys Roberts, Ruth Jackson, Sally, Esther Elin, Rhian Gareth, Catrin Owen, Heledd Evans, Nicole Booth, Erin Jones, Gwen Wilkinson