Eleni, am y tro cynta’, mae plant rhwng dwy a thair oed a disgyblion blwyddyn 7 yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw am ddim. Fe fydd yn cael ei roi ar ffurf chwistrell i fyny’r trwyn.

Mae pobol 65 oed a hŷn, pobol sydd âg afiechydon hirdymor a merched sy’n feichiog yn gallu cael y brechiad am ddim yn barod.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, wedi bod yn rhybuddio pobol i gael eu brechiad blynyddol wrth i’r gaeaf agosáu.

Ble i gael y brechlyn

Gall meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru roi’r brechiad ffliw, sydd ar gael yn rhad ac am ddim trwy’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae staff y GIG yn cael eu hannog hefyd i’w hamddiffyn eu hunain a’u cleifion.

Wrth sôn nad oes angen i bobol boeni am sgil-effeithiau brechiad y ffliw, dywedodd Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

“Mae’n bosib y bydd pigiad y ffliw yn llosgi ychydig ar y dechrau ac yn gwneud i’ch braich frifo am ychydig ddiwrnodau, ond ni fydd yn cael unrhyw effaith ddrwg arall ar y rhan fwyaf o bobol.

“Mae amser o hyd i sicrhau bod cynifer â phosib o’r bobol sy’n gymwys i gael eu brechu’n rhad ac am ddim, yn manteisio ar y cyfle ac yn chwarae eu rhan i helpu i drechu’r ffliw.”

Salwch yw’r ffliw sy’n effeithio ar y system anadlu. Fe gaiff ei achosi gan firws sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu ac fel rheol, bydd symptomau fel oerfel, gwres a chyhyrau poenus yn ymddangos yn sydyn.