Trenau First Great Western (Mattbuck CCA 2.0)
Fe fydd glanhawyr trenau sy’n gweithio i gwmni rheilffordd sy’n darparu gwasanaethau rhwng Llundain a De Cymru a de-Orllewin Lloegr yn cynnal streic yn ystod y dyddiau nesa’.

Ond mae’r cwmni rheilffordd yn dweud nad ydyn nhw’n disgwyl y bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau.

Bydd aelodau undeb yr RMT sy’n gweithio i Mitie – contractwyr i Gwmni First Great Western – yn gweithredu’n diwydiannol ar amseroedd gwahanol rhwng Dydd Iau a fore Llun nesaf.

Bydd 200 aelod o’r undeb yn mynd ar streic oherwydd anghydfod ynghylch cyflogau a chytundebau dim-oriau.

‘Dim effaith’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran First Great Western wrth Golwg360 eu bod yn gweithio gyda Mitie i sicrhau na fydd yr anghydfod yn effeithio ar wasanaethau.

Roedden nhw’n disgwyl i Mitie gadw at eu cytundeb, meddai, a doedd streiciau tebyg yn y gorffennol ddim wedi  amharu ar y gwasanaethau trên.