Mae tasglu newydd sydd wedi’i sefydlu er mwyn cynghori Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, ar sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar waith i foderneiddio’r rheilffyrdd, yn cyfarfod am y tro cynta’ heddiw.
Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol, fydd yn cadeirio’r grŵp ac mae cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac ardaloedd menter y Gogledd, yn ogystal â chynrychiolwyr y sector preifat, wedi cael gwahoddiad i fod yn aelodau ohono.
Bydd gwaith Tasglu’r Gweinidog yn adeiladu ar yr argymhellion a wnaed mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys adroddiad y Dr Elizabeth Haywood ar Economi Trawsffiniol Ardal Afon Dyfrdwy ac adroddiad Tasglu Trafnidiaeth Integredig y Gogledd-ddwyrain.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth: “Os ydyn ni am weld economi’r Gogledd yn ffynnu, mae’n rhaid wrth rwydwaith rheilffyrdd effeithlon a system trafnidiaeth integredig. Bydd y tasglu hwn yn fy nghynghori ar sut gallwn ni sicrhau bod y Gogledd mewn sefyllfa i fanteisio ar waith i drydaneiddio’r rheilffyrdd, a datblygu’r achos busnes dros foderneiddio’r rhwydwaith.”
Aelodaeth yn amrywio
Bydd aelodaeth y tasglu’n hyblyg ac yn amrywio o’r naill gyfarfod i’r llall, gan ddibynnu ar y materion a fydd yn cael eu trafod, ond bydd yn cynnwys o leiaf y cynrychiolwyr isod:
· Uwch-swyddogion yn cynrychioli pob un o’r chwe awdurdod lleol yn y gogledd (Ynys Môn; Gwynedd; Conwy; Sir Ddinbych; Sir y Fflint; Wrecsam).
· Cadeiryddion yr Ardaloedd Menter yn Ynys Môn, Glannau Dyfrdwy ac Eryri.
· O leiaf dri yn cynrychioli busnesau yn y sector preifat yng ngogledd Cymru.
Bydd Tasglu’r Gweinidog yn paratoi ei adroddiad cychwynnol erbyn diwedd mis Rhagfyr 2013 ac yn mynd ati’n rheolaidd yn ystod 2014 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y materion allweddol, gan gwblhau’r gwaith erbyn mis Rhagfyr 2014.