Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl i’r Gwasanaeth Ambiwlans  fethu cyrraedd targed o ran ymateb i alwadau brys am yr 16 mis yn olynol.

Cyhoeddwyd heddiw bod y Gwasanaeth Ambiwlans  wedi ymateb i 62.9% o achosion brys o fewn wyth munud ym mis Medi eleni. Dyw’r targed o 65% heb ei gyrraedd ers mis Mai 2012.

Meddai Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod hyn yn un o gyfres o dargedau mae Llywodraeth Cymru wedi methu a chyrraedd yn rheolaidd – gan gynnwys amseroedd triniaeth canser ac amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai’n adolygu’r targedau iechyd.

Dywedodd Darren Millar: “Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur Carwyn Jones wedi methu â chyrraedd targedau amseroedd ymateb ambiwlansys sy’n golygu bod gormod o gleifion wedi gorfod aros yn rhy hir am driniaeth i achub bywyd.

“Mae’r targed o wyth munud yn cael ei defnyddio yn eang ar draws y DU a gall ychydig funudau o oedi olygu’r  gwahaniaeth rhwng byw a marw i rai cleifion sy’n ddifrifol wael.

“Rhaid i Weinidogion Llafur  ymrwymo i’r angen am dryloywder o berfformiad y GIG fel y gall Llywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif gan gleifion.”