Iain Duncan Smith
Mae Goruchaf Lys y DU wedi dweud bod cynlluniau’r Llywodraeth i gael pobl nôl mewn gwaith yn ddiffygiol.
Heddiw, methodd ymgais yr Ysgrifennydd dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, i wyrdroi dyfarniad cynharach ym mis Chwefror oedd yn dweud bod y rheolau sy’n sail i’r cynlluniau yn annilys.
Cafodd y cynlluniau eu condemnio oherwydd eu bod yn cynnwys gwaith heb dâl a thoriadau ym mudd-daliadau’r rhai oedd yn methu â chydymffurfio â’r rheolau.
Ond er bod y Goruchaf Lys wedi barnu bod y rheolau’n ddiffygiol, barnwyd nad oedd y cynlluniau yn gyfystyr a llafur gorfodol.
Roedd rhai o blaid y cynlluniau wedi eu croesawu’r fel ffordd effeithiol o gael pobl nol mewn gwaith.